Rydym yn recriwtio ar gyfer Cyfarwyddwr Cyllid Cynorthwyol

Gwneud cais am swydd a lawrlwytho Dyletswyddau a Chyfrifoldebau a Manyleb y Person

Ffurflen Datganiad

Lawrlwythwch y ffurflen a’i chyflwyno gyda llythyr eglurhaol a CV

Cyfarwyddwr Cyllid Cynorthwyol

£92k a chostau adleoli

Bydd y rôl hon yn helpu i siapio a chefnogi dyfodol ariannol Barcud. Fel cyfrifydd cymwys, dyma’ch cyfle i arwain y ffordd wrth ddylunio a gweithredu strategaethau a systemau cyllid blaengar.

Am Barcud

Yng Nghymdeithas Tai Barcud, nid adeiladu cartrefi yn unig y byddwn ni – byddwn yn helpu i siapio dyfodol pobl. Fel corff deinamig, blaengar sy’n gwasanaethu cymunedau ledled canolbarth a gorllewin Cymru, rydym ar genhadaeth i greu newid parhaol, positif yn y lleoedd yr ydym yn eu galw’n gartref. Ac yntau wedi’i greu drwy uno Cymdeithas Tai Canolbarth Cymru a Tai Ceredigion yn 2020, mae Barcud bellach ar flaen y gad o ran tai fforddiadwy, â mwy na 4,000 o feddiannau, trosiant blynyddol dros £28 miliwn, a thîm eiddgar o fwy na 300 o bobl.

Ond rydym yn fwy na niferoedd yn unig – rydym yn gymuned o unigolion, a ninnau’n cael ein gyrru ymlaen gan ymroddiad cyffredin i wneud gwahaniaeth gwirioneddol. Rydym yn ymlafnio i ddarparu cyfleoedd cyflogaeth o’r math gorau un ar draws ystod o wasanaethau ac fe gaiff pob ceiniog a enillwn ei hailfuddsoddi mewn darparu cartrefi o’r ansawdd uchaf, cefnogi busnesau lleol, a gwella bywydau’r bobl sy’n byw ac yn gweithio yma.

Mae tenantiaid wrth graidd pob penderfyniad a wnawn ac mae gennym hanes hir a llwyddiannus o gyfranogiad gan Denantiaid. Mae ein Nodau Strategol mewn cytgord â hyn wrth inni ymdrechu i ddarparu cartrefi fforddiadwy, effeithlon o ran ynni ar gyfer trigolion canolbarth a gorllewin Cymru. Mae cefnogi tenantiaid yn ystod yr hinsawdd ariannol heriol sydd ohoni yn flaenoriaeth, ac rydym yn ymroddedig i weithio gyda grwpiau tenantiaid i ganolbwyntio ar nodau Barcud. Mae’r Gymdeithas yn ymdrechu i gyrraedd y safonau rheoleiddiol uchaf posib i ategu ein gweledigaeth. 

Gyda thri is-gwmni llwyddiannus a phresenoldeb cynyddol yng nghanolbarth a gorllewin Cymru a thu hwnt, mae Barcud yn cynnig amgylchedd deinamig lle daw gweledigaeth, arweinyddiaeth, ac arloesi ynghyd i siapio dyfodol tai.   Fel Grŵp â 3 is-gwmni, rydym yn dîm o dros 300 o fobol. 

Mae gan ein rhanbarth ni un o’r poblogaethau mwyaf o siaradwyr Cymraeg yng Nghymru. Mae’r Gymraeg yn bwysig iawn inni. Rydym yn ymfalchïo mewn rhoi cyfleoedd i ddysgu ac annog ein cydweithwyr i ddefnyddio iaith eu dewis yn hyderus ym mhob agwedd ar ein bywyd gwaith beunyddiol.

Dyma’ch cyfle chi i fod yn rhan o’n dyfodol cyffrous.

Mae’r Tîm Arweinyddol, Aelodau’r Bwrdd a’r Drefn Lywodraethiant i’w gweld yn y fan hon [dolen]

Mae ein Hadroddiad Blynyddol diweddaraf i’w gael yn y fan hon [dolen]

Mae Adroddiadau Blynyddol ac asesiadau Rheoleiddiol blaenorol i’w cael yn y fan hon [dolen]

Y Tîm Rheoli

Gellir dod o hyd i Adroddiadau Blynyddol ac Asesiadau Rheoliadol blaenorol yma.

Adroddiad Blynyddol

Mae ein Hadroddiad Blynyddol diweddaraf, sy’n rhoi trosolwg o’n cyflawniadau, a gweithgareddau allweddol i’w gweld yma.

Archive documents

Previous Annual Reports and Regulatory assessments can be found.

Gwneud cais am swydd

Cwblhewch y ffurflen gais a datganiad yn gywir, gan roi’r holl fanylion gofynnol.

Amcanion a Gwerthoedd

Gellir gweld rhagor o fanylion am ein hamcanion strategol yma

Parch

Rydym yn parchu’r bobl yr ydym yn gweithio gyda nhw ac iddyn nhw ac yn gwerthfawrogi eu cyfraniad.

Balchder

Rydym yn ymfalchïo yn ein gwaith ac yn falch o’i wneud yn dda.­

Parch

Rydym yn parchu’r bobl yr ydym yn gweithio gyda nhw ac iddyn nhw ac yn gwerthfawrogi eu cyfraniad.

Gofal

Mae ein pobl, ein cymunedau, ein diwylliant, ein gwlad a’r amgylchedd yn bwysig i ni.

Balchder

Rydym yn ymfalchïo yn ein gwaith ac yn falch o’i wneud yn dda.­