Sefydlwyd Cymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru yn 1904, a chynhaliwyd y sioe gyntaf yn Aberystwyth yn ystod yr un flwyddyn.

Mae’r gymdeithas wedi datblygu’n helaeth iawn ers y dyddiau cynnar hynny, ac mae tri digwyddiad y Gymdeithas, sef yr Ŵyl Tyddyn a Chefn Gwlad, Sioe Frenhinol Cymru, a’r Ffair Aeaf, wedi dod yn ddigwyddiadau pwysig yng nghalendr amaethyddol Cymru.

Sefydlwyd Cymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru yn 1904, a chynhaliwyd y sioe gyntaf yn Aberystwyth yn ystod yr un flwyddyn.

Mae’r gymdeithas wedi datblygu’n helaeth iawn ers y dyddiau cynnar hynny, ac mae tri digwyddiad y Gymdeithas, sef yr Ŵyl Tyddyn a Chefn Gwlad, Sioe Frenhinol Cymru, a’r Ffair Aeaf, wedi dod yn ddigwyddiadau pwysig yng nghalendr amaethyddol Cymru.

Gyda gofid mawr y mae Cymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru, wedi ystyriaeth ofalus, yn cyhoeddi heddiw fod Gŵyl Tyddyn a Chefn Gwlad mis Mai wedi’i chanslo a bod Blwyddyn Sir Nawdd Clwyd a Sioe Frenhinol Cymru wedi’u gohirio tan 2022.

Mae ein tîm yn parhau i weithio mewn partneriaeth â Llywodraeth Cymru ac Iechyd Cyhoeddus Cymru i sicrhau bod gan y sector digwyddiadau lais cryf, ond mae’r cyfyngiadau presennol, fel y’u nodir yng ‘Nghynllun Rheoli’r Coronafeirws’ a’r amrywiol Lefelau Rhybudd yn golygu ei bod yn amhosibl cynnal digwyddiadau mawr yr haf hwn. Mae unrhyw gyfyngiadau ar niferoedd a rheolau cysylltiedig cadw pellter cymdeithasol o 2 fetr yn rhwystrau mawr i hyfywedd digwyddiadau, megis Sioe Frenhinol Cymru. Wedi dweud hynny mae ein staff, ymddiriedolwyr a’r Gymdeithas gyfan wedi ymrwymo i sicrhau bod maes y sioe’n barod ar gyfer digwyddiadau pan fydd y rheolau’n caniatáu

Er bod Sioe Frenhinol Cymru wedi’i gohirio, mae’r Gymdeithas wedi ymrwymo i archwilio pob cyfle i gynnal digwyddiadau llai sy’n cydymffurfio â COVID yn ystod yr haf a’n huchelgais yw cynnal chwip o Ffair Aeaf, cyn dychwelyd at normalrwydd newydd yn 2022. Byddir yn gwneud cyhoeddiadau pellach yn ddiweddarach yn y Gwanwyn, pan fydd gwell dealltwriaeth o’r pandemig a’r cyfyngiadau ar gael.

Meddai Steve Hughson, y Prif Weithredwr:

“Rydym yn parhau i weithio ochr yn ochr â Llywodraeth Cymru ac Iechyd Cyhoeddus Cymru i greu Map Ffordd ar gyfer ailagor digwyddiadau yn ddiogel. Mae ein digwyddiadau yn ganolog i’r economi wledig ac i’r ffordd o fyw wledig ac yn golygu cymaint i aelodau, arddangoswyr, masnachwyr ac ymwelwyr ac rydym yn deall yn llwyr y cyfrifoldeb ar bob un ohonom i sicrhau ein bod yn darparu ein digwyddiadau cyn gynted ag y mae’n ddiogel gwneud hynny. Er gwaethaf yr heriau hyn mae’r Gymdeithas wedi camu ymlaen i gefnogi ein cymuned leol trwy ddarparu cyfleusterau yn rhad ac am ddim ar gyfer Canolfan Profi COVID a chanolfan brechu torfol.”

Meddai John T Davies, Cadeirydd y Cyngor:

“Gyda gofid y mae’r penderfyniad wedi’i wneud i ganslo Gŵyl Tyddyn a Chefn Gwlad eleni ac i ohirio Sioe Frenhinol Cymru. Byddwn yn archwilio posibiliadau digwyddiadau llai, amgen yr haf hwn a gyda Bwrdd y Cyfarwyddwyr byddwn yn parhau i ganolbwyntio ar ddiogelu ein Cymdeithas ar gyfer y genhedlaeth nesaf. Rydym yn gwerthfawrogi cefnogaeth ein haelodau a rhanddeiliaid eraill yn fawr. Ni fu cefnogaeth barhaus pawb sy’n gysylltiedig â’r Gymdeithas erioed yn bwysicach.”

Os ydych wedi archebu ar gyfer ein digwyddiadau sydd wedi’u canslo a gohirio eneli, byddwn mewn cysylltiad yn fuan iawn.

Mae’r flwyddyn diwethaf wedi bod yn her I ni igyd ac rydym mor ddiolchgar am eich cefnogaeth barhaus. Mae ein tîm yn gweithio’n galed I sicrhau ein bod yn amddiffyn dyfodol y gymdeithas ar gyfer y genhedlaeth nesaf.