Mae'n ddrwg gennym, nid yw'n bosibl ymgeisio ar gyfer y swydd hon bellach

Am Y Gwasanaeth

Mae’r hyb yn cynnig gwasanaeth cynghori rheng flaen i gwsmeriaid ar gynlluniau Tai, atal Digartrefedd, Budd-dal Tai a chynllun Gostyngiad y Dreth Gyngor, Diwygio Lles ac ystod eang o wasanaethau’r cyngor gan gynnwys darpariaeth llyfrgell.

Am Y Swydd

Mae cyfle cyffrous wedi codi ar gyfer unigolion ymrwymedig â sgiliau gofal cwsmeriaid gwych i ymuno â’n tîm Hyb y Dwyrain a leolir yn Hyb Llaneirwg.
Bydd y cynllun hyfforddi’n rhoi’r sgiliau angenrheidiol i’r ymgeisydd llwyddiannus i helpu ein cwsmeriaid wyneb yn wyneb a defnyddio gwahanol systemau TG.

Does dim gofynion ffurfiol am gymwysterau na phrofiad. Fodd bynnag, bydd gan yr ymgeisydd llwyddiannus sgiliau cyfathrebu a TG da a bydd yn gallu addasu a dysgu’n gyflym.

Beth Rydym Ei Eisiau Gennych

Mae agwedd gadarnhaol sy’n canolbwyntio ar gwsmeriaid yn hollbwysig a byddwch yn gweithio gyda chwsmeriaid wyneb yn wyneb. Bydd angen i chi allu gweithio’n dda fel aelod o dîm a bod yn hyblyg.

Byddwch yn cynorthwyo â’r gwaith o ddarparu gwasanaeth llyfrgell o ansawdd uchel.

Bydd gofyn i’r ymgeisydd llwyddiannus weithio’n gydweithredol ag amryw o sefydliadau partner i roi gwasanaeth cyfannol i gwsmeriaid.

Byddwch yn helpu i hyrwyddo cynhwysiant digidol a chynhwysiant ariannol drwy helpu cwsmeriaid i wneud y mwyaf o’u hincwm a chael cartref fforddiadwy.
Bydd gennych sgiliau cyfathrebu a TG rhagorol a byddwch yn gallu datrys anghydfod mewn modd cadarnhaol ac adeiladol.

Gwybodaeth Ychwanegol

Ar gyfer trafodaeth anffurfiol, ar ôl darllen y disgrifiad swydd, cysylltwch â Holly James ar 20920780992 neu drwy Holly.James@caerdydd.gov.uk

Bydd hi’n ofynnol i ddeiliad y swydd weithio ar y penwythnos a chyda’r nos ar sail rota, a gall lleoliad y gwaith amrywio.

Rhaid i ymgeiswyr mewnol sy'n dymuno gwneud cais am y swydd ar secondiad gael caniatâd cyn gwneud cais gan ddefnyddio Ffurflen SEC1 (4.C.081). Dim ond y canlynol sy’n gallu cymeradwyo ceisiadau: y Cyfarwyddwr / Cyfarwyddwr Cynorthwyol / Prif Swyddog neu Uwch Swyddog Enwebedig perthnasol, nad yw ar raddfa is na RhG2, neu yn achos staff ysgol, y Pennaeth / Corff Llywodraethu.

Fel cyflogwr cyfle cyfartal, rydym yn gwerthfawrogi amrywiaeth. Felly, er nad yw’n ofyniad ar gyfer gwneud cais, rydym yn croesawu ac yn annog ceisiadau gan unigolion nad ydynt yn cael eu cynrychioli’n ddigonol, gan gynnwys y rheini:

- dan 25 oed
• nad ydynt mewn cyflogaeth, addysg na hyfforddiant;
• o’n cymunedau lleol gan gynnwys yn benodol unigolion anabl, gofalwyr a phobl o gymuned pobl dduon ac Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig a chymuned LGBT+ Caerdydd
• sy’n gallu cyfathrebu’n rhugl drwy gyfrwng y Gymraeg.

Croesewir ceisiadau yn Gymraeg a Saesneg. Ni chaiff ceisiadau Cymraeg eu trin yn llai ffafriol na cheisiadau Saesneg.

Atodiadau