blog

Rydym yn maethu fel teulu

Manon a Huw

Un teulu lleol sydd yn maethu gyda’u awdurdod lleol yn Sir Ddinbych yw Manon a Huw, a’u plant Mabli (15), Boas (13) ac Ethni (9). Yma, mae Manon yn esbonio sut beth yw bod yn rhan o deulu maethu a sut mae pob aelod o’r teulu yn chwarae rhan mor bwysig wrth groesawu plant newydd i’w cartref a’u bywydau.

“Rhywbeth ‘da chi’n gwneud fel teulu cyfan ydi maethu”, meddai Manon. “Mae’n benderfyniad i’ch teulu cyfan gan fod pob aelod o’r teulu yn cyfrannu at ddarparu cartref sefydlog a gofalgar i blentyn sy’n derbyn gofal.”

Mae Manon wedi bod eisiau maethu ers iddi gofio. “Pan oeddwn tua 15 oed, rwy'n cofio rhywun yn gofyn i mi beth roeddwn i eisiau ei wneud pan oeddwn yn hŷn. Dywedais, yn hollol bendant ac heb unrhyw amheuaeth, Rwyf am fabwysiadu a maethu plant."

A dyna a fu.

Mabwysiadu yn gyntaf

Mae Manon wedi gweithio gyda plant drwy gydol ei gyrfa. Ar ôl gweithio fel cymhorthydd un-i-un i blentyn â syndrom Down a’i chefnogi hi trwy gydol ei haddysg er pan oedd yn 3 oed, fe wnaeth hyn ysgogi Manon i fod eisiau mabwysiadu plentyn ag anabledd.

“Byddai pobl yn aml yn gofyn pam mabwysiadau cyn cael ein plant ein hunain, neu'n cymryd yn ganiataol nad oeddem yn gallu cael plant ein hunain. Ond roeddem ni eisiau mabwysiadu yn gyntaf fel pe bai gennym ni ein plant ein hunain yn y dyfodol, ni fyddent yn gwybod dim gwahanol.

Gwnaethom fabwysiadu Mabli, sydd â syndrom Down, pan roedd hi ond yn 11 mis oed. Mae hi bellach yn 15 oed, ac yn llawn cymeriad!”

Ar ôl mabwysiadau Mabli, ac yna cael dau o blant eu hunain, Boas ac Ethni, roedd Manon a Huw yn barod i ystyried maethu.

“Rwy’n cofio’r teimlad hyd heddiw o yrru adref yn y car am y tro cyntaf gyda Mabli ar ôl i ni ei mabwysiadu” eglurodd Manon. “Roeddwn i eisiau i bobl eraill gael y teimlad hwnnw hefyd felly roedd gallu darparu gofal maeth i fabis a phlant ifanc a oedd yn debygol o fod angen eu mabwysiadu yn rhywbeth yr oeddem ni’n teimlo y gallem ei gynnig fel teulu.”

Pan roedd Ethni yn 2 a hanner oed, cysylltodd Manon â’i hawdurdod lleol yn Sir Ddinbych. “O’r sgwrs ffôn cyntaf un, roeddwn yn gwybod bod maethu gyda’n hawdurdod lleol yn iawn i ni, ac nid wyf yn difaru eu dewis o gwbl. Rydym wedi cael y cymorth a’r gefnogaeth orau bosibl o'r diwrnod cyntaf gan tîm Maethu Cymru Sir Ddinbych.”

Proses manwl a phersonol

“Yn ddealladwy, mae’r broses o ddod yn ofalwr maeth cymeradwy yn un manwl a phersonol iawn – mae eich gweithwyr cymdeithasol yn dod i’ch adnabod chi’n well nag yr ydych chi’ch hun! Rwy’n berson agored iawn, ond nid yw pawb yr un peth felly mae’n bwysig eich bod yn teimlo’n gyffyrddus ac yn gallu ymddiried yn eich tîm maethu i’ch cefnogi bob cam o’r ffordd. Cawsom lawer allan o'r broses, a’i fwynhau a dweud y gwir!”

Cymeradwywyd Manon a Huw fel gofalwyr maeth yn 2015 ac fe wnaethon nhw groesawu eu plentyn cyntaf yn yr hydref y flwyddyn honno. Ers hynny, maent wedi darparu gofal maeth tymor hir i 7 o blant, ac wedi maethu llawer iawn o blant ar sail tymor byr. “Gwnaethom ddewis maethu babis a phlant rhwng 0 a 5 oed fel bod ein plant ni yn hŷn na’r plant maeth - roeddem yn teimlo bod yr ystod oedran hon yn gweddu orau i anghenion ein teulu.”

Nid yw bywyd byth yn ddiflas!

“Mae'r positifrwydd sy'n dod allan o faethu, i ni fel teulu ac i'r plant rydyn ni wedi'u maethu, yn rhoi boddhad aruthrol ac yn golygu nad yw bywyd byth yn ddiflas!

“Mae cymaint o uchafbwyntiau ac atgofion, ac yn aml, y pethau bychain sydd yn aros yn y cof, fel cyflwyno bwydydd nad ydynt erioed wedi trio, pethau fel sbageti bolognaise a chinio dydd Sul, a’u gweld yn mwynhau ac yn gofyn am ragor!

Rwy’n cofio rhoi sgert i un ferch fach a oedd erioed wedi gwisgo sgert o’r blaen. Wna i byth anghofio’r wên ar ei hwyneb wrth iddi ddawnsio o gwmpas yr ystafell yn ei sgert newydd!”

Profiad positif i'n plant

Teulu maethu: Manon a Huw

“Mae tyfu i fyny ar aelwyd faethu wedi bod yn brofiad hynod bositif i’n plant ac wedi rhoi sgiliau bywyd oes iddynt fel empathi a thosturi ac maent yn bendant wedi datblygu i fod yn fwy gofalgar ac ystyriol o eraill.

Mae wedi bod yn wych gweld y plant maeth yn cael eu derbyn gan ein plant, ac yn hyd yn oed fwy arbennig gweld cyfeillgarwch a pherthnasoedd agos yn cael eu ffurfio a fydd, gobeithio, yn para am oes.”

Maen nhw yn caru maethu cymaint â ni.”


Teulu maethu: Manon a Huw

Mae Boas, sydd yn 13 oed, yn trysori’r amseroedd arbennig mae yn ei gael gyda’r plant maeth. “Rwy’n hoffi gweld y plant maeth yn dysgu pethau newydd yn ystod eu hamser efo ni, fel cerdded a cropian, ac yn dweud eu geiriau cyntaf. Rwy’n cael llawer o hwyl efo’r plant ac yn hoffi dysgu triciau newydd iddynt fel clapio, high fives, fist bumps, cicio a dal pêl.”

Cadw agwedd gadarnhaol

Gyda’r profiad o faethu yn cynnig nifer o brofiadau cadarnhaol, daw rhai heriau unigryw hefyd. Un her o’r fath yw’r mater anochel o ffarwelio â phlentyn maeth. “Rydym wedi bod yn onest ac yn agored gyda’n plant o’r dechrau am beth yw maethu, a delio â’r profiad o ffarwelio â phlentyn maeth drwy gadw agwedd gadarnhaol”, eglurodd Manon. “Pwysleisio’r holl brofiadau da a’r effaith bositif y maent wedi’i gael ar fywydau’r plant bach yma drwy roi cartref cariadus a diogel iddynt hyd nes eu bod yn gallu symud ymlaen i sefyllfa mwy parhaol sydd yn iawn iddyn nhw.

Wrth gwrs, rydym yn profi amrywiaeth o emosiynau pan fydd plentyn yn gadael ein cartref ac mae angen mynd trwy broses o alaru cyn maethu plentyn arall. Mae’r tristwch o’u gweld nhw yn mynd yn aml yn gymysg â hapusrwydd drwy wybod ein wedi helpu i gael bywyd plentyn yn ôl ar y trywydd iawn ar ôl dechrau anodd.

Rhaid cofio hefyd bod y broses o symud ymlaen yn un raddol – boed hynny i’w teulu neu i gael eu mabwysiadu, a’r rhan fwyaf o’r amser, rydym yn cadw mewn cysylltiad â’r teuluoedd wedyn. Nid yw llawer o bobl yn sylweddoli hynny!”

Mae angen amser

Felly beth mae Manon yn ystyried yw’r sgiliau a’r rhinweddau personol mwyaf hanfodol i faethu’n llwyddiannus ac i helpu eraill i benderfynu a yw bywyd fel gofalwr maeth yn iawn iddyn nhw?

“Mae angen amser a’r gallu i gyfathrebu. Byddwch yn gofalu am amrywiaeth o blant o bob cefndir felly mae angen i chi fedru delio gyda llawer o bobl gwahanol sydd yn ran o fywydau’r plant bach yma fel ysgolion, gweithwyr iechyd proffesiynol a theulu biolegol y plentyn. Gall wythnosau cyntaf lleoliad fod yn brysur iawn rhwng bob dim!

Mae hefyd angen meddwl agored. Bydd pobl yn aml yn dod i’w casgliadau eu hunain am rieni biolegol plant maeth ac yn dweud pethau fel sut y gallant roi’r gorau i’r plant bach ‘ma?. Ond mae’n llawer iawn mwy cymhleth na hynny. Nai fyth barnu’r rhieni, ac rwyf bob amser yn trio cynnal perthynas dda gyda nhw.”

Newid ein bywydau er gwell

“Os ydych yn meddwl am faethu, dechreuwch drwy gysylltu gyda’ch awdurdod lleol am sgwrs anffurfiol. Does dim rhaid i chi ymrwymo i unrhyw beth nes eich bod yn barod. Gallwch hyd yn oed ddechrau fel gofalwr maeth seibiant byr drwy ddarparu cymorth hanfodol i blentyn maeth dros dro. Gall hyn fod yn ffordd dda o ddysgu mwy am y rôl, ennill profiad a gweld a yw maethu yn addas ar gyfer eich teulu cyn gofalu am blant ar sail tymor hir.

Mae maethu yn sicr wedi newid ein bywydau fel teulu er gwell ac rwyf mor ddiolchgar am hynny.”