Agorwyd Gardd Goffa Ysgol Bro Teifi yn swyddogol ar 9 Tachwedd 2018, sy’n gartref newydd i Gofeb Rhyfel cyn disgyblion Ysgol Ramadeg Llandysul, a gollodd eu bywydau yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf a’r Ail Ryfel Byd.

Agorwyd yr Ardd Goffa a dadorchuddiwyd y Gofeb Rhyfel gan Brif Swyddogion Ysgol Bro Teifi.

Dywedodd Pennaeth Ysgol Bro Teifi, Robert Jenkins, “Braint ydy cael agor yn swyddogol yr Ardd Goffa, sy’n deyrnged arbennig i gyn-ddisgyblion Ysgol Ramadeg Llandysul ac Ysgol Dyffryn Teifi. Cynlluniwyd yr ardd gan Bensaer Cyngor Sir Ceredigion oedd ynghlwm yn y prosiect a Rheolwr Prosiect Ysgol Bro Teifi yn ystod y cyfnod adeiladu. Fe’i hadeiladwyd gan griw o brentisiaid lleol dan oruchwyliaeth y cwmni adeiladu, Willmott Dixon. Gobeithiaf y bydd yr ardd goffa o gysur wrth gofio am y cyn ddisgyblion hynny a gyfrannodd gymaint i fywyd a chymdeithas y fro.”

Roedd y Gofeb Rhyfel wedi ei leoli yn Llyfrgell Ysgol Dyffryn Teifi a pan symudwyd i Ysgol Bro Teifi, gwnaed trefniadau i symud y gofeb a’i gadw’n ddiogel hyd nes gellid casglu digon o arian i’w drwsio.

Yn dilyn cymorth ariannol gan Grant Cofio’r Rhyfel Byd Cyntaf Llywodraeth Cymru, a chyfraniad hael gan Gyngor Cymuned Llandysul, trwsiwyd y gofeb i’w gyflwr gwreiddiol.

Parhaodd Mr Robert Jenkins trwy ddweud, “Yn ogystal, rydym yn gosod yn ei lle y Gofeb Rhyfel, a fu am flynyddoedd lawer yn llyfrgell yr hen ysgol. Rhoddwyd y Gofeb yn wreiddiol er cof am fechgyn ifanc yr ardal, yn gyn ddisgyblion Ysgol Sirol Llandysul, a’r Ysgol Ramadeg, a gollodd eu bywydau yn ystod rhyfeloedd byd y ganrif ddiwethaf.”

Mae 16 o gyn disgyblion yr ysgol bu farw rhwng 1914 a 1918 wedi eu coffáu. Mae’n gofeb ddiddorol oherwydd mae yna gynrychiolaeth o bob un o’r lluoedd arfog sef y fyddin, y llynges a’r llu awyr. Mae 17 o gyn ddisgyblion y bu farw yn yr Ail Ryfel Byd wedi eu coffáu ar y gofeb hefyd.

Dywedodd y Cynghorydd Catrin Miles, Aelod Cabinet gyda chyfrifoldeb dros y Gwasanaethau Dysgu a Dysgu Gydol Oes, “Mae’n braf cael gweld agoriad Gardd Goffa Ysgol Bro Teifi. Rwy’n falch iawn bod y Gofeb Rhyfel wedi cael ei drwsio a lle newydd, teilwng wedi ei roi iddo am flynyddoedd i ddod. Dyma le i goffau a chofio am y disgyblion o’r ardal a gollodd eu bywydau drosom.”

Croesawyd aelodau’r gymuned i ymuno disgyblion yr ysgol i ymweld â’r ardd yn ystod y dydd, gan dderbyn perfformiad gan gôr yr ysgol. Roedd ffrwyth gwaith disgyblion blwyddyn 7, 8 a 9 yn cael ei arddangos yn yr ysgol i bawb weld.

09/11/2018